Cofnodion y Grŵp Trawsbleidiol ar Gyfathrebu Digidol

Dydd Mawrth 23 Mehefin 2015 6.00pm

Cadeirydd: Russell George AC

Aelodau'n Bresennol

Alun Ffred Jones AC (Arfon)

Cynrychiolwyr:

Hywel Wiliam - Pwyllgor Cynghori Ofcom yng Nghymru

Rhodri Williams - Cyfarwyddwr, Cymru - Ofcom

Elinor Williams - Rheolwr Materion Rheoleiddiol – Ofcom

Nia Thomas - Cynghorydd Materion Rheoleiddiol - Ofcom

Neil Stock - Pennaeth Polisi Radio - Ofcom

Cynhaliwyd cyfarfod cyffredinol blynyddol ffurfiol ac ail-etholwyd Russell George yn Gadeirydd. Eiliwyd hyn gan Alun Ffred Jones AC ac aelodau Ofcom. Cytunwyd y byddai Ofcom yn darparu ysgrifenyddiaeth ar gyfer y Grŵp.

Croesawodd y Cadeirydd Neil Stock o Ofcom a aeth ymlaen i roi cyflwyniad ar Radio Cymunedol a Masnachol yng Nghymru. Rhannwyd y cyflwyniad yn bedair rhan.

-          Cyflwyno Darlledu Sain Digidol (DAB) Lleol fesul cam

-          DAB Cenedlaethol (ledled y DU)

-          DAB graddfa fach

-          Radio Cymunedol

 

Cyflwyno DAB lleol fesul cam

Trafododd Neil Stock bolisi'r Llywodraeth i gynyddu'r ddarpariaeth a'r nifer sy'n defnyddio Darlledu Sain Digidol (DAB), sydd dan ofal y Gweinidog Gwladol dros Ddiwylliant a'r Economi Ddigidol, Ed Vaizey. Gofynnwyd a yw DAB yn costio mwy na radio analog, a chadarnhawyd fod DAB yn ddrytach nag FM ond bod y gost yn amrywio yn dibynnu ar yr ardal. Ychwanegodd mai'r targed yw cyfateb i ddarpariaeth FM gwasanaethau radio masnachol lleol 'mawr'. Dywedodd wrth y rhai a oedd yn bresennol y bydd trosglwyddyddion newydd yn cael eu codi yng Nghymru yn ystod y flwyddyn nesaf i wella'r ddarpariaeth i dai a ffyrdd. Holwyd am y ddarpariaeth DAB ar ffyrdd yng Nghymru ar hyn o bryd, a nododd Neil Stock y bydd yn darparu map sy'n nodi lefelau'r ddarpariaeth ar draffyrdd a ffyrdd dosbarth A yng Nghymru.

DAB Cenedlaethol (ledled y DU)

Tynnodd Neil Stock sylw at amlblecs y DU gyfan y BBC, a'i nod o ehangu'r ddarpariaeth i 97%. Nododd fod Ofcom wedi rhoi trwydded am ail wasanaeth amlblecs radio cenedlaethol i Sound Digital yn ddiweddar. Nodwyd fod radio'n llawer mwy cymhleth na theledu, ac mai polisi'r Llywodraeth sy'n gyfrifol am unrhyw newid posib, ac nid Ofcom.  Nododd fanteision DAB hefyd o ran ansawdd y sain a'r swyddogaethau.

Cyflwyno DAB graddfa fach fesul cam

Cyfeiriwyd at dreialon DAB graddfa fach Ofcom i annog gorsafoedd radio cymunedol i symud ymlaen i DAB. Nododd mai'r Llywodraeth sy'n ariannu'r treialon ac nad oedd unrhyw ymgeiswyr o Gymru. Gofynnwyd a allai gorsafoedd radio ddarlledu ar-lein, a nodwyd y gallent. Ychwanegodd nad oes gan Ofcom unrhyw bŵer i reoleiddio darlledu ar-lein.

Radio Cymunedol

Nodwyd fod y Llywodraeth wedi llacio'r rheolau cyllido ar gyfer gorsafoedd radio cymunedol, a'i bod nawr ond yn caniatáu ymestyn trwyddedau am hyd at bum mlynedd. Nodwyd hefyd fod gorsafoedd radio cymunedol yn cael eu cyllido'n bennaf gan grantiau.

Camau gweithredu y cytunwyd arnynt

 

CAM GWEITHREDU: Neil Stock i ddosbarthu mapiau darpariaeth i Aelodau'r Cynulliad

 

Daeth y cyfarfod i ben am 7.30pm.